Mynwent St. Mark Cemetery
 
 
 
 
 
  
Cyngor Cymuned   
  Llandderfel 
  Community Council
 
 
 
  Cynghorau Penllyn Councils © 2025                          
  Website designed and maintained by H G Web Designs
  
 
  Trosglwyddodd yr Eglwys yng Nghymru perchnogaeth y 
  fynwent i Gyngor Cymuned Llandderfel yn 1986. Cafodd yr 
  eglwys ei hun ei ddymchwel yn 1978 ond mae hoel yr eglwys 
  yn amlwg hyd heddiw. 
  O ran hanes cymdeithasol a gwleidyddol Cymru, mae cyd-
  destun adeiladu’r eglwys yn ddiddorol. Codwyd tair eglwys 
  anwes ym Mhlwyf Llanfor i ychwanegu at eglwysi plwyf 
  Llanfor a Llandderfel, yn Rhosygwaliau, y Sarnau ac yma yn 
  Fron-goch. Byddai hyn yn rhan o ymgais gan Frances, gwraig 
  uchel eglwysig meistr tir Rhiwlas, Richard Watkin Price, i 
  droi’r brodorion oddi wrth Ymneilltuaeth. Ynghlwm wrth hyn i 
  gyd fyddai cosbi tenantiaid am beidio pleidleisio i’r 
  ymgeisydd Torïaidd, yn ôl dymuniad Price, yn cynnwys troi 
  rhai fel Ellis Roberts, Fferm Fron-goch, o’i fferm. Adeiladwyd 
  yr eglwys yn y dull Seisnig Cynnar i ddyluniadau M. Penson o 
  Gaer. Roedd y cynllun yn cynnwys cangell a chorff yr eglwys, 
  festri ogleddol a phorth deheuol, gyda thalcen cloch 
  orllewinol, gweler y cynllun isod. Fe'i cysegrwyd ar 19 Awst 
  1858. Yn 1909 fe'i hadferwyd. Cafodd ei dymchwel yn 1978 ac 
  mae hoel yr eglwys yn amlwg hyd heddiw.
  Yn hanesyddol ceir darlun o’r eglwys gan rai o’r Gwyddelod a 
  garcharwyd yn Fron-goch yn 1916. Gwelir yr eglwys yng 
  nghefndir un o frasluniau o Wersyll y Gogledd isod. Cyn i’r 
  Gwyddelod fod yma, ac wedyn, claddwyd rhai carcharorion 
  rhyfel o’r Almaen a fu farw yn Fron-goch, o dwymyn ac o’r 
  dicáu er fod gweddillion y cyrff rheini wedi’u symud i 
  Cannock Chase i fynwent ryfel yr Almaenwyr. Ceir dau gorff 
  yn yr un bedd i ddau a foddodd yn Llyn Tryweryn yn 1880 yn 
  ystod yr amser yr adeiledid y rheilffordd drwy Fron-goch o’r 
  Bala i Ffestiniog.
 
 
  Ownership of the cemetery was transferred to Llandderfel 
  Community Council from the Church in Wales in 1986. The 
  church itself was demolished in 1978 but traces of  the walls 
  are still visible today. 
  In terms of the social and political history of Wales, the 
  context of the construction of the church is interesting. Three 
  churches were built in the Llanfor Parish, Rhosygwaliau, y 
  Sarnau and here in Fron-goch to add to the Llanfor and 
  Llandderfel parish churches. This was part of an attempt by 
  Frances, the ecclesiastical wife of the Rhiwlas landowner, 
  Richard Watkin Price, to turn the locals away from Secession. 
  Examples of this was punishing tenants for not following 
  Price’s wishes and not voting for the Tory candidate, including 
  evicting Ellis Roberts, Fron-goch Farm, from his farm. The 
  church was built in the Early English style to the designs of M. 
  Penson of Chester. The plan included a chancel and nave, 
  north vestry and south porch, with a west bell gable, see plan 
  below. It was consecrated on the 19th of August 1858 and 
  restored in 1909. 
  Historically, the church appears in some of the drawings 
  made by the Irish imprisoned in Fron-goch in 1916. The 
  church can be seen in the background of one of the sketches 
  of the North Camp below. Before the Irish were here, and 
  afterwards, some German prisoners of war who died in Fron-
  goch, of fever and the ticks, were buried here. Later, the 
  remains of those bodies were moved to the German war 
  cemetery in Cannock Chase. Also, there is grave for two who 
  drowned in Llyn Tryweryn in 1880, during the time the railway 
  was being built through Fron-goch from Bala to Ffestiniog.
 
 
  
 
 
  
 
 
  
 
 
  
 
 
  Erthygl o bapur newydd Y Cyfnod 1978.
  Article from the local newspaper Y Cyfnod 1978.
 
 
  Gwelir yr eglwys yng nghefndir un o frasluniau o Wersyll y Gogledd 
  gan on o’r Gwyddelod a garcharwyd yn Fron-goch yn 1916.
  The church can be seen in the background of a sketch of the North 
  Camp by one of the Irish imprisoned in Fron-goch in 1916.
 
 
  Cynllun yr eglwys.
  Church floorplan.