“Lawnt agos i Lyn Tegid” felly y disgrifiodd 
  Robert Eifion Jones yr ardal, a’r Llyn yn wir a 
  roddodd enw i’r plwyf.
  Mae’n blwyf eang yn ymestyn o 
  Allt y Gwine i’r Afon Lafar ac o ben 
  Bwlch y Groes i ben y Feidiog ar 
  gyrion Trawsfynydd.  Bu’r 
  Rhufeiniaid yma yng Nghaer Gai 
  ac mae olion eu ffyrdd yn croesi’r 
  ardal i’r pedwar cyfeiriad. Yng 
  Nghwm Pennantlliw wedyn mae 
  Castell Carndochan yn ein 
  hatgoffa o gyfnod y Tywysogion a’r 
  gyfeddach a fu yno yn oes Rhirid 
  Flaidd.
  Cysylltir yr ardal â llu o enwogion y 
  gorffennol: y rhai amlycaf yn eu 
  plith mae’n debyg yw Syr O M 
  Edwards, Syr Ifan ap Owen 
  Edwards a Michael D Jones. Yma 
  hefyd y maged y cerflunydd 
  amlwg John Meirion Morris ac yma y mae’n byw.
  Ond yr hyn sy’n nodweddu Llanuwchllyn yw bwrlwm y bywyd 
  diwylliannol yma ac mae’r iaith Gymraeg yn dal i ffynnu yn yr ysgol 
  a’r gymuned.
 
 
 
 
 
  
Cyngor Cymuned   
  Llanuwchllyn 
  Community Council
 
 
 
  
  
 
 
  Cynghorau Penllyn Councils © 2025                          
  Website designed and maintained by H G Web Designs