Cynghorau Penllyn Councils © 2023 Website designed and maintained by H G Web Designs
Cyngor Cymuned Llanycil Community Council
Plwyf yng nghantref Penllyn yw Llanycil.
Yn ddaearol mae yn cwmpasu ardal o lan Llyn Tegid i’r Arenig Fawr, a thrwy ganol Llyn Tryweryn i gyffuniau tref Y Bala.
Yn wir yn yr hen oes dywedir i’r Bala fod yn rhan o blwyf
Llanycil. Mae’r gair Llanycil yn dod o’r llanyn y gongl (cil) megis
hen eglwys blwyf Y Bala, a Beuno yw ei Mabsant.
Amaethyddiaeth yw’r prif gyflogwyr yn yr ardal, ond yn nechray
yr ugeinfed ganrif roedd chwarel brysur ar lethrau’r Arenig a
thros ddaugant o weithwyr yno.
Ond poblogaeth denau a gwasgaredig a geir yn y plwyf bellach
gyda dau bentref bach sef Rhyduchaf a’r Parc, a chlwstwr
bychan o dai yn Llidiardau a’r Arenig o fewn ei thiriogaeth.
Ar un adeg bu dwy ysgol gynradd yn y Plwyf sef Ysgol
Maesywaen a gaewyd yn niwedd y chwedegau pan agorwyd
ysgol newydd Bro Tryweryn yn y Frongoch ac Ysgol y Parc a
gaewyd yn 2013 ar ôl ymgyrch hir i’w hachub.
Gellir dweud fod trigolion Llanycil yn ddiwylliedig iawn, ac adlewyrchir hyn yn y bwrlwm cymdeithasol a geir yn y gwahanol
gymdeithasau sydd yn defnyddio y ddwy neuadd a’r tri capel o fewn y plwyf yn wythnosol, a hynnu drwy gyfrwng yr iaith
Gymraeg.
Adnodd mwyaf gwerthfawr y plwyf yw Llyn Arenig sydd yn cyflenwi dŵr yfed i drigolion Penllyn a darnau o Edeyrnion.