“Lawnt agos i Lyn Tegid” felly y disgrifiodd Robert Eifion Jones yr ardal, a’r Llyn yn wir a roddodd enw i’r plwyf. Mae’n blwyf eang yn ymestyn o Allt y Gwine i’r Afon Lafar ac o ben Bwlch y Groes i ben y Feidiog ar gyrion Trawsfynydd. Bu’r Rhufeiniaid yma yng Nghaer Gai ac mae olion eu ffyrdd yn croesi’r ardal i’r pedwar cyfeiriad. Yng Nghwm Pennantlliw wedyn mae Castell Carndochan yn ein hatgoffa o gyfnod y Tywysogion a’r gyfeddach a fu yno yn oes Rhirid Flaidd. Cysylltir yr ardal â llu o enwogion y gorffennol: y rhai amlycaf yn eu plith mae’n debyg yw Syr O M Edwards, Syr Ifan ap Owen Edwards a Michael D Jones. Yma hefyd y maged y cerflunydd amlwg John Meirion Morris ac yma y mae’n byw. Ond yr hyn sy’n nodweddu Llanuwchllyn yw bwrlwm y bywyd diwylliannol yma ac mae’r iaith Gymraeg yn dal i ffynnu yn yr ysgol a’r gymuned.
English English

Cyngor Cymuned

Llanuwchllyn

Community Council

Cynghorau Penllyn Councils © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs