Cynghorau Penllyn Councils © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs
Cyngor Tref Y Bala Town Council
Tref farchnad hanesyddol yw'r Bala - "Y Bala dirion deg". Fe'i sefydlwyd gan y Normaniaid yn y 12fed ganrif. Codwyd castell "y Domen" a chynlluniwyd patrwm cyfochrog ei strydoedd yn y cyfnod hwn. Codwyd y dref gan Roger de Mortimer fel cadarnle i dawelu brodorion rhyfelgar ardal Penllyn, sef yr ardal o gwmpas pen llyn Tegid. Ar yr un pryd rhoddwyd siarter i'r dref a chaniatâd i greu swyddogaeth y maer am y tro cyntaf - traddodiad 'rydym yn falch o'i gynnal hyd heddiw! Mae'r gair Bala yn dynodi lle mae afon yn llifo o'r llyn - yr afon Ddyfrdwy o lyn Tegid. Llyn Tegid yw'r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Hen enw ar y llyn oedd "Pimblemere" sef ynganiad ar “Pum Plwyf mere” yn ôl rhai. Ceir sawl enghraifft o bwysigrwydd hanesyddol y dref ac ardal Penllyn - yma er enghraifft y daeth Iwl Cesar ymerawdwr Rhufain am geffylau i’w fyddin. Yn 1485 daeth byddin Harri Tudur drwy'r ardal ar ei daith i faes y gad yn Bosworth canolbarth Lloegr. Aeth Rhys ap Meredudd gyda Harri Tudur i'r frwydr ac wedi'r fuddugoliaeth enillodd y teulu gryn freintiau gan y brenin newydd, Harri'r Seithfed, hyn a arweiniodd yn ei dro at sefydlu ystâd y Rhiwlas. Bu'r diwydiant gwlân yn bwysig i'r dref ac yn enwedig y traddodiad o weu sanau - dyma oedd Siôr y Trydydd yn mynnu ei gwisgo i leddfu poen ei grud cymalau. Dylanwadodd tref y Bala mewn sawl ffordd ar Gymru a thu hwnt - yma y profwyd y diwygiad crefyddol a man cychwyn sefydlu Cymdeithas y Beibl. Ysbrydolwyd y parchedig Thomas Charles i weithredu wedi taith hir Mari Jones i'r Bala, yn droednoeth, i geisio am gopi o'r Beibl. Yn y dref hefyd y ganwyd Betsi Cadwaladr a aeth i'r Crimea i nyrsio ac i wella amgylchiadau erchyll y milwyr clwyfedig yn ystod y rhyfel yno. Ar gyrion y dref mae hen gartref Michael D Jones a fu yn flaenllaw wrth geisio sefydlu'r wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Tom Ellis, aelod seneddol dros Feirionnydd a prif chwip y Rhyddfrydwyr, sydd yn cael ei goffau mewn cerflun trawiadol ar y Stryd Fawr. Yn adeilad yr Henblas gerllaw ymddangosir Tom Ellis eto ar ffurf penddelw gan y cerflunydd enwog o Gymro, Syr W Gascombe John. Yn yr Henblas y mae Cyngor Tref y Bala a Chynghorau Cymuned Plwyfi Penllyn yn cydweithio er mwyn sicrhau bodolaeth gwasanaethau o safon i bobl yr ardal.