Partneriaeth Penllyn Cynrychiolwyr o'r 4 Cyngor Cymuned, Llandderfel, Llangywer, Llanycil , Llanuwchllyn a Chyngor Tref Y Bala, a Chydlynydd, yw “Partneriaeth Penllyn”. Ffurfiwyd yn 2009 oherwydd pryder bod gwasanaethau'n cael eu darparu o bell - neu ddim o gwbl - ac felly ddim yn cyrraedd anghenion y defnyddwyr. Cred Partneriaeth Penllyn bod gwasanaethau'n cael eu darparu orau ar lefel leol hyd y bo'n ymarferol bosib, ac ein bwriad yw gwireddu hyn mewn nifer o feysydd a chyda cynifer o asiantaethau â phosib. Bwriadau: 1. Daprau gwasanaethau lleol ar ran Cyngor Gwynedd (ar hyn o bryd rydym yn cynnal llwybrau a thoiledau cyhoeddus, gofalu am fannau chwarae plant ac am ddodrefn stryd). 2. Bod yn llais cryf dros Benllyn, gan fod siarad ar ran y 5 Cyngor gyda’i gilydd yn gryfach na’r Cynghorau yn ceisio gweithredu ar wahân. Rydym yn ceisio dylanwadu ar wasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau’r lefel orau o wasanaethau cyhoeddus i Benllyn. 3. Ceisio cael rhai gwasanaethau cyhoeddus ac asiantaethau yn ôl i’r ardal fel eu bod yn nes at y bobl. Cydlynydd: Sioned Haf Evans, Canolfan Henblas, Y Bala - 01678 521 796 Cwmni Pum Plwy Penllyn cyf Yn 2013 ffurfiodd aelodau Partneriaeth Penllyn gwmni cyfyngedig dan warant o’r enw Cwmni Pum Plwy Penllyn cyf er mwyn ceisio am grantiau a gweithio mewn meysydd tu allan i ffiniau gwaith Cyngor Gwynedd. Amcan y Cwmni yw: i. hyrwyddo lles economaidd a chymdeithasol trigolion Pum Plwy Penllyn (Llanuwchllyn, Llangywer, Llanycil, Y Bala a Llandderfel) trwy: ii. darparu gwasanaethau Hyd yn hyn mae gwaith Cwmni Pum Plwy Penllyn cyf wedi cynnwys cynnal a gofalu am rai o asedau Parc Cenedlaethol Eryri ym Mhenllyn, a chreu Canolfan Henblas sy’n darparu 1. gofod i asiantaethau gynnal cyfarfodydd yn breifat gyda chleientiaid, 2. gofod ac adnoddau technolegol modern ar gyfer cyfarfodydd 3. swyddfeydd i hybu gwaith cymunedol ac economaidd Ysgrifennydd: Huw Antur Edwards, Canolfan Henblas, Y Bala
Cynghorau Penllyn Councils © 2024 Website designed and maintained by H G Web Designs

Partneriaeth

Penllyn

Partnership

English English