Plwyf yng nghantref Penllyn yw Llandderfel.
Yn 1985 ffurfiwyd y Cyngor Cymuned presennol wrth gyfuno hen blwyf Llanfor
a hen blwyf Llandderfel.Yn ddaearyddol y mae’n un o’r plwyfi mwyaf yng
Nghymru ag arwynebedd o bron ugain mil hectar sy’n ymestyn o ffiniau Cyngor
Bwrdeistref Conwy yn y gogledd i Sir Ddinbych yn y gogledd a’r dwyrain ac at
derfyn Powys yn y de ddwyrain.
Poblogaeth denau a gwasgaredig sydd i’r gymuned wledig hon yn cynnwys
pentrefi Llandderfel, Glanrafon, Llanfor, Frongoch a Sarnau. Yng nghyfrifiad
2011 yr oedd y boblogaeth yn 1,511 a thua 71% o’r rhain yn medru siarad
Cymraeg.
Rhed afon Dyfrdwy drwy ganol y plwyf a ffurfia afonydd Celyn a Thryweryn ran
helaeth o’r ffiniau gorllewinol a deheuol. Rhed afon Celyn i’r llyn a gronwyd yn y
chwedegau i gyflenwi dinas Lerpwl.
Y tri chopa uchaf yn yr ardal fynyddig hon yw Carnedd y Filiast (669 metr), Foel
Cwm Siân Llwyd (648 metr), a’r Foel Goch (611 metr).
Cyngor Cymuned Llandderfel Community Council
Cynghorau Penllyn Councils © 2024
Website designed and maintained by H G Web Designs